Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 1 Mawrth 2021
Amser:
14.00 -
15.38
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11096
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
David Rees AS (Cadeirydd) Huw Irranca-Davies AS Dai Lloyd AS Nick Ramsay AS David J Rowlands AS Jack Sargeant AS (yn lle Alun Davies AS) |
Tystion: |
Jane Hutt AS, Y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip Andew Gwatkin, Llywodraeth Cymru Paula Walsh, Llywodraeth Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Alun Davidson (Clerc) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) Rhun Davies (Ymchwilydd) Sara Moran (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies, roedd Jack Sargeant yn dirprwyo ar ei rhan.
1.3 Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru a Chadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol.
2 Sesiwn graffu gyda'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip
2.1 Atebodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwipgwestiynau gan yr Aelodau.
3 Papurau i’w nodi
3.1 Papur i’w nodi 1: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd ynghylch fframweithiau cyffredin - 22 Chwefror 2021
3.1.1 Nodwyd y papur.
3.2 Papur i'w nodi 2: Fframwaith cyffredin dros dro ar hylendid a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid - Hybu Cig Cymru / Meat Promotion Wales
3.2.1 Nodwyd y papur.
3.3 Papur i'w nodi 3: Perfformiad Rhwydwaith Swyddfeydd Tramor Llywodraeth Cymru drwy gydol 2020-21
3.3.1 Nodwyd y papur.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a’r cyfarfodydd ar 8 Mawrth 2021 a 15 Mawrth 2021
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Sesiwn graffu gyda'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip - trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.